Croeso i wefan Cyngor Tref Tregaron

Saif Tregaron yng nghysgod mynyddoedd y Cambrian; mae yn un o’r chwech prif-drefi marchnad yng Ngheredigion ac wedi gefeillio gyda Plouvien yn Llydaw ers 1999.

Mae y Cyngor Tref yn ymatebol i bobl Tregaron ac mae yn ddyletswydd ar y Cyngor i gynrychioli gwahanol ddiddordebau o fewn y gymuned, yn gyfartal.

Bydd y Cyngor yn cwrdd ar y trydydd nos Lun o bob mis, ar wahan i fis Awst, a hynny am 7.30 yr hwyr yn y Neuadd Goffa.

Nid oes wardiau ac mae un-ar-ddeg o Gynghorwyr y Cyngor. Etholir cynghorwyr bob pedair blynedd a chynhelir y cyfarfod blynyddol ym mis Mai, pryd y dewisir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd.

Cyflogir Clerc i redeg busnes y Cyngor, ynghyd â gweithiwr rhan amser a gweithiwr achlysurol, sydd yn gyfrifol am y toiledau yn Heol yr Orsaf a’r fynwent gaedig yn Eglwys St. Caron.

Yn flynyddol, rhoddir cyfle i fudiadau niferus yn Nhregaron i gynnig am grant tuag at eu amrywiol weithgareddau.

Rhif yr etholwyr ar y rhestr etholiadol i Dregaron yw 982